Blog

Sioe Bioamrywiaeth Llyn Padarn – 7 Mehefin 2014

Mae tîm prosiect ‘Caru ein Llyn’ yn gwahodd teuluoedd, preswylwyr, busnesau a chefnogwyr Llyn Padarn yn ardal Llanberis i ddod i ‘Sioe Bioamrywiaeth Llyn Padarn’, ddydd Sadwrn 7 Mehefin 2014.

“Gyda’n partneriaid, rydym yn dymuno cynnig cyfle i bobl gael cipolwg ar sut rydym yn gweithio gyda’n gilydd i ofalu am y llyn a’i fywyd gwyllt, a beth allant wneud i’n cynorthwyo i warchod Llyn Padarn,” meddai Emma Edwards-Jones, Rheolwr Prosiect ‘Caru ein Llyn’.

Cynhelir y digwyddiad rhad ac am ddim hwn yng Nghanolfan Llanberis rhwng 10.30yb a 2.30yh, a chynigir gweithgareddau ymarferol i’r teulu cyfan, er enghraifft:

  • Rhowch gynnig ar ‘Yr Her Draenio’ i geisio adeiladu system draenio ar gyfer pentref fel Llanberis;
  • Dewch i gwrdd â’r Pysgod a gwerthfawrogi harddwch y Torgoch, a dysgu pa waith sy’n digwydd i’w gwarchod;
  • Ymwelwch â Gwaith Trin Dŵr Gwastraff Llanberis, cyfle anghyffredin efallai, ond mae’r Gwaith yn chwarae rhan hanfodol er lles Llanberis. Bydd ymweliadau am 11.30yb neu 1yh.

“Efallai fod ymweld â Gwaith Trin Dŵr Gwastraff Llanberis yn ymweliad lleol digon annisgwyl. Ond bydd yn gyfle unigryw i ddeall sut mae’r £2.5 miliwn a fuddsoddwyd yma yn ddiweddar gan Dŵr Cymru Welsh Water wedi cael ei wario, a sut mae’n gweithio i warchod Llyn Padarn,” meddai Emma.

Sefydlwyd prosiect Caru ein Llyn i weithio gyda phreswylwyr a busnesau lleol i sicrhau y byddwn yn gwneud popeth a allwn i warchod ansawdd dŵr y llyn.  Mae ‘Sioe Bioamrywiaeth Llyn Padarn’ yn fenter ar y cyd gan Caru ein Llyn, Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, Cyfoeth Naturiol Cymru, Dŵr Cymru Welsh Water, Afonydd Cymru a Pharc Gwledig Padarn.

Mae rhagor o wybodaeth am y digwyddiad ac awgrymiadau ynghylch sut gall pobl newid eu harferion i helpu i atal llygredd ar gael ar Dudalen Facebook Cymunedol ‘Caru ein Llyn’ (chwiliwch am ‘LlynPadarn’). Mae’r wefan yn cynnwys manylion ynghylch sut gall preswylwyr a busnesau wneud newidiadau syml a wnaiff wahaniaeth mawr.

“Ymunwch â ni ddydd Sadwrn 7 Mehefin, ac fe gewch eich rhyfeddu gan fioamrywiaeth Llyn Padarn a heriau’r gwaith o’i reoli,” meddai Emma.