Cychwynnodd “Caru ein Llyn” fel rhaglen 12 mis o weithgareddau i ymchwilio i beth allwn ni, fel cymuned, ei wneud i wella ansawdd dŵr Llyn Padarn.. Yn sgil cymorth ychwanegol gan Dŵr Cymru Welsh Water, mae’r rhaglen wedi cael ei hymestyn. Mae llawer o’n gweithgareddau dyddiol wrth i ni fyw a gweithio yn y dyffryn yn effeithio ar y llyn. Trwy gyfrwng ‘Caru ein Llyn’, mae arnom ni eisiau adnabod ac annog y camau syml hynny a fydd yn fwyaf llesol i ansawdd dŵr y llyn. Yn y lle cyntaf, bydd hyn yn golygu siarad â thrigolion a busnesau yn Nant Peris, Llanberis a Fachwen, i helpu i nodi’r camau hyn, a dilynir hynny gan gyfres o ddigwyddiadau a gweithgareddau cymunedol i roi’r gair ar led.

Prif neges y prosiect yw gall pawb wneud gwahaniaeth trwy gamau syml, a byddwn yn darparu cymorth a chyngor yn ystod cyfnod y prosiect.

Byddwn yn darparu cymorth a chyngor ac yn gofyn i chi ymuno â ni i ‘Garu ein Llyn’.