Pa un ai a oes gennych fusnes ar lannau’r llyn, yn mwynhau nofio yn y lagwnau, dal pysgod, cerdded eich ci o amgylch llwybr y llyn, neu’n gyrru heibio’n ddyddiol, mae gan bawb ohonom sy’n byw, gweithio neu’n cael gwyliau yn Nyffryn Llanberis gysylltiad Llyn Padarn.

Yn 2009, fe wnaeth y llyn ddioddef gan flŵm algaidd gwenwynig a arweiniodd at arwyddion rhybudd yn cael eu codi o amgylch glannau’r llyn yn rhybuddio pobl i osgoi defnyddio’r llyn am ran helaeth o’r haf. Achoswyd y blŵm gan gyfuniad o’r tywydd a  maetholion megis ffosfforws yn mynd i mewn i’r llyn. Gall y maetholion hyn ddod o sawl ffynhonnell, yn cynnwys erydiad pridd a dŵr gwastraff. Bydd y maetholion hyn yn bwydo’r blŵm algaidd, a gall fod yn wenwynig i bobl ac anifeiliaid os caiff ei amlyncu. Bydd yr  algâu hefyd yn defnyddio’r ocsigen yn y dŵr, sy’n gwneud pethau’n anodd i’r pysgod yn y llyn.

Fe wnaeth blŵm 2009 effeithio’n negyddol iawn ar fusnesau lleol, bywyd gwyllt a phobl na allai fwynhau’r llyn ddim rhagor. Heb ostyngiad yn nifer y maetholion sy’n mynd i mewn i’r llyn, erys y bygythiad o ragor o flŵm algaidd. Trwy wneud ychydig o newidiadau syml i’n gweithgareddau beunyddiol, gallwn leihau’r nifer o faetholion sy’n mynd mewn i Lyn Padarn.IMG_0401