Blog

Gofalu am eich tanc septig

Newyddion gan:

Mae tîm prosiect ‘Caru ein Llyn’ yn gofyn i breswylwyr a busnesau lleol ardal Llanberis ‘Garu eu tanciau septig’ a chymryd camau er lles Llyn Padarn. Caiff canllaw a llyfr log ei lansio yr wythnos hon i’w cynorthwyo i gadw eu tanciau septig mewn cyflwr da.

“Os oes gan eich eiddo danc septig, byddwch yn ei ddefnyddio bob dydd, ond yn aml iawn, cuddir hwy ac anghofir amdanynt.Rydym yn gofyn i bobl ardal Llanberis gadw eu tanciau septig mewn cyflwr penigamp, oherwydd fe wnaiff hyn ein cynorthwyo i warchod Llyn Padarn yn y pen draw,” meddai Emma Edwards-Jones, rheolwr prosiect ‘Caru ein Llyn’.

Gall tanciau septig na chaiff eu cynnal a’u cadw a’u gwagio’n rheolaidd achosi llygredd, rhywbeth sy’n cyfrannu at flymau algaidd megis yr un a ddigwyddodd yn 2009. Fe wnaeth blŵm algaidd 2009, a gaeodd y llyn am ran helaeth o’r haf, effeithio’n sylweddol ar ecoleg y llyn a niweidio busnesau lleol yn ddifrifol.

Cafodd ‘Gofalu am eich tanc septig: Canllaw a llyfr log  i berchnogion tai’, ei ddatblygu a’i ysgrifennu gan dîm prosiect ‘Caru ein Llyn’ mewn cydweithrediad ag Adnoddau Naturiol Cymru.Caiff ei ddosbarthu i bob cartref sydd heb ei gysylltu â’r brif garthffos ac y credir fod ganddo danc septig. Mae’r canllaw hwn yn cynnig gwybodaeth ymarferol ynghylch canfod, cynnal a chadw a gwagio tanciau septig i alluogi perchnogion tai i atal llygredd a chyflawni eu cyfrifoldebau cyfreithiol.

Yn dilyn blwyddyn gyntaf hynod lwyddiannus ‘Caru ein Llyn’, mae’r prosiect wedi cael rhagor o arian gan Dŵr Cymru Welsh Water, am ail flwyddyn. “Rydym wrth ein bodd fod Dŵr Cymru Welsh Water yn ‘Caru ein Llyn’ trwy gefnogi’r prosiect am 12 mis arall, ac rydym yn ddiolchgar am ei gefnogaeth barhaus. Mae rheoli tanciau septig yn dda yn hanfodol i sicrhau y gall trigolion lleol ac ymwelwyr â Llanberis ymhyfrydu yn Llyn Padarn, a’r bywyd gwyllt sy’n ddibynnol arno,” meddai Emma.

Mae prosiect ‘Caru ein Llyn’ wedi’i ddatblygu a chaiff ei redeg gan Eryri-Bywiol, menter gymdeithasol a leolir yn Caban, Brynrefail. Fe’i noddir gan Adnoddau Naturiol Cymru a chaiff ei gefnogi gan Ddŵr Cymru Welsh Water.

Dywedodd Steve Wilson, rheolwr gwasanaethau dŵr gwastraff Dŵr Cymru Welsh Water: “Rydym yn falch o allu parhau i gefnogi prosiect ‘Caru ein Llyn’ sydd eisoes wedi cyflawni canlyniadau gwych o ran cynghori pobl sy’n byw ger Llyn Padarn ynghylch y cyfraniad y gallant ei wneud at warchod y llyn.

“Bydd eu gwaith yn ei dro yn cynorthwyo i hybu effeithlonrwydd y £2.5 miliwn rydym wedi’i fuddsoddi hyd yn hyn yn y gwaith trin dŵr gwastraff i gael gwared ar ffosffadau o ddŵr gwastraff yn ystod y broses drin.”

“Mae gwybodaeth leol ac awgrymiadau ynghylch y newidiadau gall pawb eu gwneud i atal llygredd ar gael ar dudalen Cymunedol Facebook ‘Caru ein Llyn’, ‘llynpadarn’.Cofiwch ‘hoffi’ a rhannu’r dudalen hon â ffrindiau i’n cefnogi,” meddai Emma.Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar-lein yn www.loving-our-lake.org. Mae’r wefan yn cynnwys manylion sut gall preswylwyr a busnesau wneud newidiadau syml a wnaiff wahaniaeth mawr.

PDF Gofalu am eich tanc septig: Canllaw a llyfr log i ddeiliaid tai