Zoe - Llyn padarn

Gwyddys fod lefelau uchel o faetholion megis Nitrogen a Ffosfforws yn achosi problemau ag ansawdd dŵr mewn llynnoedd.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi gosod cyfyngiadau ar drwydded Dŵr Cymru Welsh Water (DCWW) i ollwng carthffrwd i mewn i Afon y Bala felly mae llawer llai o faetholion yn mynd i mewn i’r llyn erbyn hyn. Mae DCWW hefyd wedi gwella ei rwydwaith yn yr ardal felly bydd llai o ollyngiadau o’r system carthffosydd pan fydd stormydd.

Mae CNC yn gobeithio cadarnhau yn hydref 2015 sut maent yn bwriadu cychwyn gwaith tymor hir i ddiogelu ansawdd dŵr y llyn a phryd gorffennir hynny.

Mae Llyn Padarn bellach wedi cael ei dynodi yn unig lyn dŵr croyw Cymru y gellir nodio ynddo, ac mae canlyniadau’r samplau a gymerwyd gan Gyfoeth Naturiol Cymru yno yn 2015 wedi cyflawni’r safon “rhagorol” uchaf.

Cliciwch yma i ddysgu rhagor ynghylch sut rheolir Llyn Padarn.