Blog

Canlyniadau canol tymor yn dangos ansawdd dŵr ardderchog

Datganiad i’r Wasg Cyfoeth Naturiol Cymru – 18/07/2014

Wrth i’r tymor dyfroedd ymdrochi gyrraedd ei hanner, mae Llyn Padarn, llyn ymdrochi dynodedig cyntaf Cymru yn cael canlyniadau gwych ac yn dangos bod ansawdd ei ddŵr yn ardderchog.

Dengys samplau a gasglwyd pob wythnos ers dechrau’r tymor ymdrochi (15 Mai) y bu i ansawdd dŵr y llyn, yn ymyl Llanberis gyrraedd y safon ‘rhagorol’ uchaf yn gyson, yn unol â chanllawiau Ewropeaidd newydd, llymach.

Ar ddiwedd y tymor (30 Medi), crynhoir yr holl ddata a gasglwyd o’r llyn, a bydd yn penderfynu dosbarthiad swyddogol y llyn y tymor nesaf. Gallai hwnnw amrywio rhwng ‘rhagorol’ a ‘gwael’.

Dyma’r flwyddyn gyntaf y dynodwyd y llyn yn ddŵr ymdrochi, yn dilyn cais gan Gyngor Gwynedd. Mae’r llyn yn boblogaidd iawn â nofwyr a selogion chwaraeon dŵr, a golyga pontŵn cychod fod gan ragor o bobl fynediad at y llyn.

Mae’n boblogaidd hefyd â genweirwyr, ac y gartref i bysgodyn prin o Oes yr Iâ, y torgoch.

Ni fu’n gwbl rwydd ar gyfer y llyn, na’r torgochiaid, ychwaith. Bu eu niferoedd ar i waered, ac yn ystod y 30 mlynedd diwethaf mae’r boblogaeth wedi dod tan fygythiad.

Ers y gordyfiant algâu glaswyrdd yn 2009, mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi gweithredu ar frys er mwyn gwella ansawdd dŵr y llyn trwy dynhau trwyddedau gweithfeydd trin carthion cyfagos, a chynghori’r cwmni dŵr ynghylch y gwelliannau angenrheidiol.

Mae arbenigwyr Cyfoeth Naturiol Cymru wedi gwneud gwaith mawr er mwyn achub y torgochiaid trwy stocio 8,000 o bysgod ifainc yn ystod y pedair blynedd diwethaf, er mwyn cynyddu’r boblogaeth, gyda 1,700 yn rhagor i’w rhyddhau’n ddiweddarach eleni.

Dywedodd Tim Jones, cyfarwyddwr y Gogledd a’r Canolbarth, Cyfoeth Naturiol Cymru:

“Mae hwn yn newyddion anhygoel ar gyfer y fro, ac yn arwydd adferiad pendant ers y gordyfiant algaidd a gafodd y fath effaith ddramatig ar yr economi lleol.

“Rydym wedi gwneud llawer i wella ansawdd dŵr yr ardal, ac ynghyd â buddsoddi gan Ddŵr Cymru Welsh Water, rydym yn gweithio’n ddygn i wneud Llyn Padarn yn well lle ar gyfer pobl leol a bywyd gwyllt.

“Ond ’dydm ni ddim am adael i’r newyddion da hwn beri inni laesu dwylo: mae eto lawer i’w wneud i sicrhau dyfodol y llyn, ei ran bwysig yn yr economi lleol, a’i boblogaeth torgochiaid brin.”