Blog

Diwrnod Santes Dwynwen Hapus

Hoffai tîm ‘Caru Ein Llyn’ ddymuno Dydd Santes Dwynwen hapus iawn ichi. Gan mai Santes Dwynwen yw nawddsant cyfeillgarwch a chariad Cymru, hoffwn rannu ein cariad at Lyn Padarn ar y diwrnod pwysig hwn. Roedd Dwynwen yn gwybod rhyw ychydig am ansawdd dŵr, pysgod a rhagolygon pobl leol ac ymwelwyr, fell dyma’r hanes…

Dywedir mai Dwynwen, oedd yn byw yn y bumed ganrif, oedd merch brydferth y Brenin Brychan Brycheiniog. Fe wnaeth gwympo mewn cariad â Maelon Dafodrill, ond gwrthododd ei thad ganiatáu iddynt briodi. Fe wnaeth Maelon fygwth ymosod neu fe wnaeth ymosod ar Dwynwen a’i gadael.

Yn ei thrallod, erfyniodd ar Dduw i’w chynorthwyo i anghofio Maelon. Wrth i Dwynwen gysgu, daeth angel i ymweld â hi, a dywedodd fod Maelon wedi’i droi yn ddarn o iâ, rhoddodd ddiod hud iddi i’w chynorthwyo i’w anghofio a rhoddodd dri dymuniad iddi.

Yn gyntaf, gofynnodd am ddadmer Maelon; yn ail, y byddai Duw yn ateb gobeithion a breuddwydion gwir gariadon; ac yn drydydd, na fyddai hi byth yn priodi. Cafodd y tri eu gwireddu, ac fel arwydd o’i diolch, ymroes Dwynwen i wasanaethu Duw am weddill ei bywyd, gan bregethu a sefydlu llawer o eglwysi.

Sefydlodd leiandy ar ynys Llanddwyn (eglwys Dwynwen), oddi ar Ynys Môn. Mae gweddillion yr eglwys a sefydlwyd rhwng y 13eg ganrif a’r 16eg ganrif ar safle ei lleiandy i’w gweld hyd heddiw.

Cysegrwyd ffynnon yn Llanddwyn iddi yn dilyn ei marwolaeth (tua 460 Oed Crist) a daeth yn safle pererindodau. Tybid fod y ffynnon yn gartref i bysgodyn neu lysywen gysegredig yr oedd ei symudiadau’n darogan dyfodol cariadon ifanc. Os bydd dŵr y ffynnon yn berwi, bydd yn darogan cariad a lwc dda i’r ymwelydd.
Arctic-charr-padarn-torgoch
Felly hoffai Caru Ein Llyn ddymuno Dydd Santes Dwynwen Hapus i chi, a gobeithio y gwnaiff pysgodyn sanctaidd y ffynnon symud fel y Torgochion Arctig hyn sydd ar eu ffordd i Lyn Padarn.

Cyfeiriadau
Amgueddfa Genedlaethol Cymru http://www.amgueddfacymru.ac.uk
Historic UK http://www.historic-uk.com
BBC http://news.bbc.co.uk/local/northwestwales

Gwasg Carreg Gwalch – Dwynwen – Santes Cariadon Cymru, Siân Lewis http://www.carreg-gwalch.com/product/dwynwen_-_santes_cariadon_cymru/