Blog

Clwb Mamau Llanberis

Aethom i rannu negeseuon ‘Caru Ein Llyn’ â Chlwb Mamau Llanberis yr wythnos hon. Fe wnaethom drafod ein prosiect a sut mae dewis glanedydd peiriannau golchi llestri heb ffosffadau a gwagio eich tanciau septig bob dwy flynedd yn gwneud gwahaniaeth mawr i Lyn Padarn.

Llwyddom i roi bag anrhegion Faith in Nature gwych yn cynnwys eu nwyddau arobryn i aelodau Clwb Mamau Llanberis. Mae Faith in Nature yn cynhyrchu nwyddau harddwch a glanhau cartrefi naturiol sy’n foesegol ac yn brin iawn eu heffaith ar yr amgylchedd.

Mae gan Faith in Nature lanedydd gwych heb ffosffadau i beiriannau golchi llestri o’r enw ‘Concentrated Dishwasher Gel’. Mae’n deillio o gynnyrch planhigion; nid yw’n cynnwys ffosffadau na chadwolion artiffisial. Ni ychwanegir lliw na phersawr. Ar gael ar-lein yn www.faithinnature.co.uk mewn meintiau 500ml a 5 litr

Diolch i Eiddwen Thomas a merched hyfryd Clwb Mamau Llanberis am ein croesawu mor gynnes, ac i dîm Faith in Nature am gefnogi ein prosiect.

Os hoffech i ni roi sgwrs i’r grŵp neu eich sefydliad yn nyffryn Llanberis ynghylch prosiect ‘Caru ein llyn’, e-bostiwch emma@snowdonia-active.com.