P'un a oes gen ti fusnes ar lannau'r llyn, dy fod ti'n mwynhau nofio yn y lagwnau, dal pysgod, cerdded dy gi o amgylch llwybr y llyn, neu ddim ond yn gyrru heibio iddo bob dydd, mae gan bob un ohonom sy'n byw, yn gweithio neu'n treulio gwyliau yn nyffryn Llanberis gysylltiad â Llyn Padarn.

Fforwm Llyn Padarn – Diweddariad Mai 26

Fforwm Llyn Padarn – Diweddariad Mai 26

It’s been a while since we announced the funding for a project to increase our understanding of the current status of Llyn Padarn and to explore a more collaborative approach to its future management. The reason we’ve been a bit quiet is that there’s been a lot going...

read more...
Fforwm Llyn Padarn 2026

Fforwm Llyn Padarn 2026

Rydym yn dal i garu ein llyn, ac felly rydym yn falch iawn o gyhoeddi bod Snowdonia-Active wedi llwyddo i sicrhau cyllid i gynyddu ein dealltwriaeth o statws presennol Llyn Padarn ac i archwilio dull mwy cydweithredol o reoli ei ddyfodol. Byddwn yn dod â sefydliadau,...

read more...
Cofio Trem ar Lyn Padarn 2016

Cofio Trem ar Lyn Padarn 2016

Rydym ni bellach wedi ffarwelio â 2016, felly fe hoffem ni ddiolch i’n holl ffrindiau a wnaeth ein helpu i ‘garu ein llyn’ y llynedd, roedd gweithio gyda phob un ohonoch yn brofiad hyfryd. Ym mis Gorffennaf, fe wnaethom ni gynnal Trem ar Lyn Padarn; wythnos wych o...

read more...

Myfyrdodau Padarn

Myfyrdodau Padarn yn rhaglen wythnos o hyd o ddigwyddiadau a gweithgareddau celf a ddathlai Llyn Padarn a'i bwysigrwydd i bobl a bywyd gwyllt. Gan weithio gyda llawer o grwpiau cymunedol a busnesau, fe wnaethom ni lunio cymysgedd eclectig o weithgareddau. Clicia ar y...

read more...

Ein Cae’r Ddôl: Gwylia’r blodau’n tyfu!

Mae'r gwanwyn yn yr awyr ac mae grŵp cymunedol newydd yn Llanberis, Cyfeillion Cae’r Ddôl, wedi sicrhau dyfarniad gan Grow Wild (a gefnogir gan y Gronfa Loteri Fawr ac a arweinir gan Erddi Botaneg Brenhinol, Kew) i feithrin dôl o flodau gwyllt brodorol ar lannau Llyn...

read more...

Wal Graffiti Llanberis

Dyma ddyddiadur fidio o briosect wal graffiti Llyn Padarn gyda'r artist graffiti Andy 'Dime One' Birch a Chlwb Ieuenctid Llanberis. Mae'n rhan o briosect Caru ein Llyn mewn cydweithrediad ag Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri. https://youtu.be/M-7Gu9uM9HY

read more...

A oes gennych chi’r cysylltiadau iawn?

Mae peipiau dŵr a draeniau diffygiol yn llygru afonydd a thraethau ledled y Deyrnas Unedig. Sicrhewch fod eich eiddo chi wedi’i gysylltu’n iawn. Os yw dŵr gwastraff neu garthion wedi’u cysylltu â draen dŵr wyneb, gallech fod yn llygru Llyn Padarn. Cliciwch yma i...

read more...

Busnesau twristiaeth yn addo caru Llyn Padarn

Mae busnesau twristiaeth a leolir o amgylch Llyn Padarn wedi dod ynghyd i lofnodi Addewid Caru ein Llyn i helpu i sicrhau fod y llyn yn parhau’n lân a chlir i’r dyfodol.  Mae busnesau blaenllaw yn cefnogi ein hymgyrch Caru ein Llyn ac yn helpu i ledaenu'r neges.  Mae...

read more...

Caru EIN Llyn

P'un a oes gennych fusnes ar lannau'r llyn, yn mwynhau nofio yn y lagynau, dal pysgod, cerdded eich ci, neu'n syml yn gyrru heibio iddo bob dydd, mae gan bob un ohonom sy'n byw, gweithio neu'n gwyliau yn Nyffryn Llanberis gysylltiad â Llyn Padarn. Er mwyn helpu i ddiogelu'r llyn ar gyfer y dyfodol, gallwn i gyd wneud rhai newidiadau syml i'n gweithgareddau bob dydd a fydd yn lleihau mewnbwn maetholion niweidiol.

Canllaw a Llyfr Log Tanc Septig

Lawrlwythwch fersiwn pdf am ddim o 'Gofalu am eich tanc septig: canllaw a llyfr log i ddeiliaid tai' yma.

Peidiwch ag Anwybyddu, Adroddwch!

I adrodd am ddigwyddiad amgylcheddol, ffoniwch linell gymorth digwyddiadau Cyfoeth Naturiol Cymru ar 0300 065 3000 (24 awr y dydd). Mae gwefan Cyfoeth Naturiol Cymru yn cynnwys manylion pellach am ba fath o ddigwyddiadau i'w hadrodd a gallwch adrodd ar-lein yn: Adrodd am broblem

Gweld. Adrodd. Atal.

Os gwelwch lygredd carthffosiaeth, ffoniwch linell gymorth Dŵr Cymru cyn gynted â phosibl ar 0800 085 3968. Mae'r ganolfan gyswllt ar agor 24 awr y dydd, bob dydd o'r flwyddyn. Mae galwadau AM DDIM o linell dir BT. Gallwch hefyd adrodd am lygredd ar-lein yn: Adrodd am broblem

Adduned Caru ein Llyn

Rydym yn annog busnesau lleol i gymryd adduned caru ein llyn i ymrwymo i sicrhau nad yw eu gweithgareddau'n niweidio'r llyn yn fwriadol. Cliciwch yma i weld pwy sydd wedi cymryd yr adduned.