Myfyrdodau Padarn yn rhaglen wythnos o hyd o ddigwyddiadau a gweithgareddau celf a ddathlai Llyn Padarn a’i bwysigrwydd i bobl a bywyd gwyllt.
Gan weithio gyda llawer o grwpiau cymunedol a busnesau, fe wnaethom ni lunio cymysgedd eclectig o weithgareddau. Clicia ar y ddolen isod am y rhaglen lawn o weithgareddau.
Rhaglen Trem ar Lyn dwyieithog
Byddem wrth ein bodd yn cynnal Myfyrdodau Padarn eto y flwyddyn nesaf. Os oes gen ti syniad ac yr hoffet ti fod yn rhan ohono, naill ai gyda digwyddiad newydd neu i ymuno/ychwanegu at weithgaredd arall, cysyllta ag Emma (emma@snowdonia-active.com).
Rydym yn ddiolchgar i gronfa CAE Parc Cenedlaethol Eryri, Cyfoeth Naturiol Cymru a Dŵr Cymru Welsh Water am eu cefnogaeth i Myfyrdodau Padarn 2016.