Beth all preswylwyr ei wneud?
I’r rhai ohonom sy’n byw, yn gweithio ac yn treulio gwyliau yn nyffryn Llanberis, mae Llyn Padarn yn nodwedd arwyddocaol yn ein bywydau. Mae bywoliaeth llawer o bobl yn yr ardal wedi’i chysylltu’n agos â lles y llyn.
Mae llawer o agweddau ar sut rydym yn byw ac yn gweithio yn cael effaith uniongyrchol ar iechyd y llyn. Gall newidiadau syml i rai agweddau ar sut rydym yn byw ac yn gweithio wneud gwahaniaeth mawr i Lyn Padarn.
Gallwch garu ein llyn trwy;
Newid i lanedydd peiriant golchi llestri sy’n rhydd o ffosffad
Mae ffosffadau mewn tabledi peiriant golchi llestri yn broblem i Lyn Padarn. Pan fydd ffosffadau yn mynd i mewn i’r dŵr maent yn dod yn faetholion neu’n fwyd i algâu, mae’r algâu yn gwledda ac yn lluosi. Mewn amodau penodol, mae hyn yn arwain at flodau algâu gwenwynig sy’n bygwth bywyd gwyllt ac yn ein hatal ni i gyd rhag mwynhau’r llyn. Mae’r rhan fwyaf o lanedyddion peiriant golchi llestri yn cynnwys o leiaf 30% o ffosffadau; yr unig ffordd y gallwch fod yn siŵr nad oes dim o hyn yn cyrraedd Llyn Padarn yw newid i frand sy’n rhydd o ffosffad.
Gwagio eich tanc septig bob 1-2 flynedd
Pryd wnaethoch chi wagio eich tanc septig ddiwethaf? Mae gwaith monitro wedi dangos bod tanciau septig sy’n gollwng yn ffynhonnell o fewnbwn ffosffad i’r llyn. Mae angen gwagio pob tanc septig yn rheolaidd os ydynt am weithredu’n effeithiol.
Lledaenwch y gair - Weithiau dim ond nodyn atgoffa sydd ei angen ar bobl. Os ydych chi’n cael eich tanc wedi’i wagio, beth am ofyn i’ch cymdogion a oes angen gwneud eu tanc hwy a throsglwyddo manylion eich contractwr.
Fel rhan o brosiect Caru ein Llyn, rydym wedi creu 'Gofalu am eich tanc septig: Canllaw a llyfr log i ddeiliaid tai'. Gallwch lawrlwytho eich copi eich hun yma.
Stopio’r Bloc
Peidiwch byth â fflysio unrhyw beth heblaw gwastraff dynol a phapur tŷ bach i lawr y tŷ bach
- tywelion cegin, eitemau mislif, ffyn cotwm, condomau, cewynnau - rhowch nhw mewn bag a’u rhoi yn y bin
- poteli meddyginiaeth, cemegau gardd, gwrthrewydd, paent, toddyddion - gwaredwch nhw mewn canolfan amwynder dinesig
- olew, saim, braster - sychwch badellau, arllwyswch fraster i gynhwysydd a’i roi mewn bin
Ceisiwch ddefnyddio llai o ddŵr
- Gosodwch ddyfeisiau arbed dŵr yn cistern eich tŷ bach
- Ychwanegwch awyryddion at eich pibellau cawod a’ch tapiau
- Golchwch lwythi llawn bob amser yn eich peiriant golchi llestri a’ch peiriant golchi dillad
Caru EIN Llyn
P'un a oes gennych fusnes ar lannau'r llyn, yn mwynhau nofio yn y lagynau, dal pysgod, cerdded eich ci, neu'n syml yn gyrru heibio iddo bob dydd, mae gan bob un ohonom sy'n byw, gweithio neu'n gwyliau yn Nyffryn Llanberis gysylltiad â Llyn Padarn. Er mwyn helpu i ddiogelu'r llyn ar gyfer y dyfodol, gallwn i gyd wneud rhai newidiadau syml i'n gweithgareddau bob dydd a fydd yn lleihau mewnbwn maetholion niweidiol.
Canllaw a Llyfr Log Tanc Septig
Lawrlwythwch ddogfen pdf am ddim: 'Gofalu am eich tanc septig: canllaw a llyfr log i ddeiliaid tai'.
Peidiwch ag Anwybyddu, Adroddwch!
I roi gwybod am ddigwyddiad amgylcheddol, ffonia linell gymorth digwyddiadau CNC ar 0300 065 3000 (24 awr y dydd). Mae gwefan CNC yn cynnwys manylion pellach am ba fath o ddigwyddiadau i roi gwybod amdanynt a gelli roi gwybod ar-lein yn: Rhoi gwybod am broblem
Gweld. Adrodd. Atal.
Os gwelwch lygredd carthffosiaeth, ffoniwch linell gymorth Dŵr Cymru cyn gynted â phosibl ar 0800 085 3968. Mae'r ganolfan gyswllt ar agor 24 awr y dydd, bob dydd o'r flwyddyn. Mae galwadau AM DDIM o linell dir BT. Gallwch hefyd adrodd am lygredd ar-lein yn: Adrodd am broblem
Adduned Caru ein Llyn
Rydym yn annog busnesau lleol i gymryd adduned caru ein llyn i ymrwymo i sicrhau nad yw eu gweithgareddau'n niweidio'r llyn yn fwriadol. Cliciwch yma i weld pwy sydd wedi cymryd yr adduned.