Pam dylem ni garu Llyn Padarn?
Dechreuodd “Loving our Lake” yn 2012 fel rhaglen 12 mis o weithgareddau i ymchwilio i’r hyn y gallwn ni, fel cymuned, ei wneud i helpu i wella ansawdd dŵr Llyn Padarn. Mae ansawdd y dŵr yn ardderchog ar hyn o bryd, ond mae angen gwaith caled a gwyliadwriaeth i gadw’r dŵr yn glir ac yn pefrio. Mae llawer o’n gweithgareddau dydd i ddydd wrth i ni fyw a gweithio yn y dyffryn yn effeithio ar y llyn. Trwy ‘Loving our Lake’ rydyn ni’n annog y camau syml hynny fydd yn cael yr effaith fwyaf buddiol ar ansawdd y dŵr. Rydyn ni’n cynnal rhaglen lawn o ddigwyddiadau a gweithgareddau cymunedol i ledaenu’r gair i bawb sy’n byw, yn gweithio ac yn ymweld â’r dyffryn ynghylch sut y gallan nhw helpu i warchod Llyn Padarn.
Cefnogir y prosiect gan Dŵr Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru

Caru EIN Llyn
P'un a oes gennych fusnes ar lannau'r llyn, yn mwynhau nofio yn y lagynau, dal pysgod, cerdded eich ci, neu'n syml yn gyrru heibio iddo bob dydd, mae gan bob un ohonom sy'n byw, gweithio neu'n gwyliau yn Nyffryn Llanberis gysylltiad â Llyn Padarn. Er mwyn helpu i ddiogelu'r llyn ar gyfer y dyfodol, gallwn i gyd wneud rhai newidiadau syml i'n gweithgareddau bob dydd a fydd yn lleihau mewnbwn maetholion niweidiol.
Canllaw a Llyfr Log Tanc Septig
Lawrlwythwch ddogfen pdf am ddim: 'Gofalu am eich tanc septig: canllaw a llyfr log i ddeiliaid tai'.
Peidiwch ag Anwybyddu, Adroddwch!
I roi gwybod am ddigwyddiad amgylcheddol, ffonia linell gymorth digwyddiadau CNC ar 0300 065 3000 (24 awr y dydd). Mae gwefan CNC yn cynnwys manylion pellach am ba fath o ddigwyddiadau i roi gwybod amdanynt a gelli roi gwybod ar-lein yn: Rhoi gwybod am broblem
Gweld. Adrodd. Atal.
Os gwelwch lygredd carthffosiaeth, ffoniwch linell gymorth Dŵr Cymru cyn gynted â phosibl ar 0800 085 3968. Mae'r ganolfan gyswllt ar agor 24 awr y dydd, bob dydd o'r flwyddyn. Mae galwadau AM DDIM o linell dir BT. Gallwch hefyd adrodd am lygredd ar-lein yn: Adrodd am broblem
Adduned Caru ein Llyn
Rydym yn annog busnesau lleol i gymryd adduned caru ein llyn i ymrwymo i sicrhau nad yw eu gweithgareddau'n niweidio'r llyn yn fwriadol. Cliciwch yma i weld pwy sydd wedi cymryd yr adduned.

