Sut mae'r llyn yn dod ymlaen?
Gwyddys bod lefelau uchel o faetholion fel Nitrogen a Ffosfforws yn achosi problemau gydag ansawdd dŵr mewn llynnoedd.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi gosod amodau ar drwydded Dŵr Cymru Welsh Water (DCWW) i ollwng carthffosiaeth i Afon y Bala fel bod llai o faetholion yn awr yn mynd i mewn i'r llyn. Mae DCWW hefyd wedi gwella ei rwydwaith yn yr ardal fel bod llai o ollyngiadau storm o'r system garthffosiaeth.
Mae CNC yn disgwyl cadarnhad yn hydref 2015 ar sut maent yn bwriadu dechrau gweithiau hirdymor i ddiogelu ansawdd dŵr y llyn a phryd y byddant yn cael eu gorffen.
Mae Llyn Padarn bellach wedi'i ddynodi fel unig lyn ymdrochi dŵr croyw Cymru ac mae canlyniadau samplau a gymerwyd gan Gyfoeth Naturiol Cymru yno yn 2015 wedi cyrraedd y safon "ardderchog" uchaf.
Cliciwch yma i ddarganfod mwy am sut mae Llyn Padarn yn cael ei reoli.

Caru EIN Llyn
P'un a oes gennych fusnes ar lannau'r llyn, yn mwynhau nofio yn y lagynau, dal pysgod, cerdded eich ci, neu'n syml yn gyrru heibio iddo bob dydd, mae gan bob un ohonom sy'n byw, gweithio neu'n gwyliau yn Nyffryn Llanberis gysylltiad â Llyn Padarn. Er mwyn helpu i ddiogelu'r llyn ar gyfer y dyfodol, gallwn i gyd wneud rhai newidiadau syml i'n gweithgareddau bob dydd a fydd yn lleihau mewnbwn maetholion niweidiol.
Canllaw a Llyfr Log Tanc Septig
Lawrlwythwch ddogfen pdf am ddim: 'Gofalu am eich tanc septig: canllaw a llyfr log i ddeiliaid tai'.
Peidiwch ag Anwybyddu, Adroddwch!
I roi gwybod am ddigwyddiad amgylcheddol, ffonia linell gymorth digwyddiadau CNC ar 0300 065 3000 (24 awr y dydd). Mae gwefan CNC yn cynnwys manylion pellach am ba fath o ddigwyddiadau i roi gwybod amdanynt a gelli roi gwybod ar-lein yn: Rhoi gwybod am broblem
Gweld. Adrodd. Atal.
Os gwelwch lygredd carthffosiaeth, ffoniwch linell gymorth Dŵr Cymru cyn gynted â phosibl ar 0800 085 3968. Mae'r ganolfan gyswllt ar agor 24 awr y dydd, bob dydd o'r flwyddyn. Mae galwadau AM DDIM o linell dir BT. Gallwch hefyd adrodd am lygredd ar-lein yn: Adrodd am broblem
Adduned Caru ein Llyn
Rydym yn annog busnesau lleol i gymryd adduned caru ein llyn i ymrwymo i sicrhau nad yw eu gweithgareddau'n niweidio'r llyn yn fwriadol. Cliciwch yma i weld pwy sydd wedi cymryd yr adduned.