Mae’r gwanwyn yn yr awyr ac mae grŵp cymunedol newydd yn Llanberis, Cyfeillion Cae’r Ddôl, wedi sicrhau dyfarniad gan Grow Wild (a gefnogir gan y Gronfa Loteri Fawr ac a arweinir gan Erddi Botaneg Brenhinol, Kew) i feithrin dôl o flodau gwyllt brodorol ar lannau Llyn Padarn.
Bydd y prosiect yn helpu’r ardal o laswelltir yn Llanberis a elwir yn Gae’r Ddôl i flodeuo’n ddôl flodau gwyllt frodorol fywiog, lle gall ymwelwyr a phobl leol ddysgu, myfyrio ac ymlacio wedi’u hamgylchynu gan flodau.
Yn dilyn gostyngiad mewn pori, mae’r cae hwn yn dechrau dangos arwyddion o’r ddôl flodau gwyllt amrywiol a hardd y gallai ddod i fod. Mae Cyfeillion Cae’r Ddôl, grŵp o bobl leol sy’n cerdded drwy’r ardal hon yn rheolaidd, yn cynnig gweithio gyda Chyngor Gwynedd er mwyn sicrhau bod y blodau’n gallu ffynnu, a gweithio eu hud yn enwedig ar bobl ifanc sy’n cerdded drwy’r ardal, ond sydd efallai ddim yn edrych i lawr ar y blodau sy’n tyfu o’u cwmpas.
Bydd Cyfeillion Cae’r Ddôl yn gweithio mewn partneriaeth â pherchennog y tir, Cyngor Gwynedd. Drwy’r prosiect, a fydd yn rhedeg drwy haf 2016, bydd cyfleoedd i bobl leol ac ymwelwyr ddysgu am y planhigion o dan eu traed a’u meithrin drwy gelf, gwyddoniaeth a digwyddiadau cymdeithasol, yn ogystal â byrddau dehongli wedi’u dylunio gan artist lleol i helpu pobl i roi enw i’r blodau.
Dywedodd un o aelodau sefydlu Cyfeillion Cae’r Ddôl, y botanegydd proffesiynol, Robbie Blackhall-Miles “Rwyf mor falch bod hyn i gyd yn digwydd. Mae’r dolydd dŵr ym mhen draw Llyn Padarn yn arbennig iawn. Pan welais i’r tegeirianau gwyllt cyntaf yn tyfu yno, roeddwn i’n gwybod bod rhaid i rywun roi ychydig mwy o sylw iddyn nhw.”
Dywedodd Maria Golightly, Rheolwr Partneriaeth Grow Wild Cymru, “Mae hwn yn brosiect gwych mewn un o fy hoff rannau o’r byd. Bydd yn arddangos yr hyn y gellir ei gyflawni gyda blodau gwyllt i gynulleidfa eang tra’n bod o fudd i’r gymuned leol yn Llanberis.”
Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am y prosiect a manylion digwyddiadau ar wefan Prosiect Cymunedol GrowWild; growwilduk.com/community-projects/ein-caer-ddôl-our-caer-ddôl
Llun: Barry Davies (Swyddog Parciau Morol a Gwledig, Cyngor Gwynedd), Anna White, Robbie Blackhall-Miles, Kath Wills (pob un yn aelodau o Gyfeillion Cae’r Ddôl)
Nodiadau i Olygyddion:
Cyfeillion Cae’r Ddôl
Mae Cyfeillion Cae’r Ddôl yn grŵp cymunedol cyfansoddedig a sefydlwyd ym mis Mawrth 2016 gyda’r nod o feithrin bioamrywiaeth Cae’r Ddôl er budd y gymuned leol ac ymwelwyr. Maent yn gweithio mewn cydweithrediad â Chyngor Gwynedd a phrosiect Caru ein Llyn sydd, ers 2012, wedi bod yn gweithio gyda’r gymuned leol i amddiffyn a gwella ansawdd dŵr Llyn Padarn (loving-our-lake.org). Cefnogir Caru ein Llyn gan Cyfoeth Naturiol Cymru a Dŵr Cymru.
Cyswllt: Emma Edwards-Jones – 01286 685 501 emma@snowdonia-active.com
Grow Wild
Rhaglen ddeinamig gwerth £10.5 miliwn yw Grow Wild i ddod â phobl a chymunedau at ei gilydd i hau, tyfu a chefnogi blodau gwyllt brodorol y DU. Wedi’i chefnogi gan y Gronfa Loteri Fawr ac o dan arweiniad Erddi Botaneg Brenhinol, Kew, nod Grow Wild yw ysbrydoli pobl i ddod at ei gilydd i drawsnewid safleoedd trefol di-garwch, gerddi a silffoedd ffenestri yn ddarnau o flodau gwyllt sy’n gyfeillgar i fywyd gwyllt. growwilduk.com
Cronfa Loteri Fawr
Y Gronfa Loteri Fawr (BIG), y dosbarthwr mwyaf o arian achosion da’r Loteri Genedlaethol, sy’n gyfrifol am roi 40 y cant o’r arian a godir ar gyfer achosion da gan y Loteri Genedlaethol. Mae’r Gronfa wedi ymrwymo i ddod â gwelliannau gwirioneddol i gymunedau a bywydau pobl sydd â’r angen mwyaf ac mae’n dyfarnu grantiau i achosion iechyd, addysg, yr amgylchedd ac elusennol ar draws y DU. Ers mis Mehefin 2004, mae BIG wedi dyfarnu dros £5 biliwn i gymunedau ar draws y DU. biglotteryfund.org.uk