Torgoch
Ym mis Rhagfyr 2012, fel rhan o'r ymdrech ehangach i atal y gostyngiad yn nifer y torgochiaid yn Llyn Padarn, dechreuodd Cyfoeth Naturiol Cymru raglen i gasglu wyau torgochiaid a hadd (milt). Cafodd y pysgod eu dal yn eu mannau silio yn Afon y Bala, ym mhen uchaf y llyn, gan ddefnyddio rhwydi ffyc.
Ar ôl cael eu deor mewn tanciau gyda thymheredd dŵr wedi'i reoli'n llym am tua thri mis ac yna eu magu yn neorfa'r Mawddach ger Dolgellau; cafodd tua 5700 o bysgod ifanc eu cludo yn ôl i Lyn Padarn ym mis Hydref 2013 i gael eu rhyddhau.
Mae'r gwaith hwn wedi parhau ar sail flynyddol ac mae monitro sonar a wnaed gan CNC yn dangos bod nifer y torgochiaid yn Llyn Padarn yn cynyddu.
Caru EIN Llyn
P'un a oes gennych fusnes ar lannau'r llyn, yn mwynhau nofio yn y lagynau, dal pysgod, cerdded eich ci, neu'n syml yn gyrru heibio iddo bob dydd, mae gan bob un ohonom sy'n byw, gweithio neu'n gwyliau yn Nyffryn Llanberis gysylltiad â Llyn Padarn. Er mwyn helpu i ddiogelu'r llyn ar gyfer y dyfodol, gallwn i gyd wneud rhai newidiadau syml i'n gweithgareddau bob dydd a fydd yn lleihau mewnbwn maetholion niweidiol.
Canllaw a Llyfr Log Tanc Septig
Lawrlwythwch ddogfen pdf am ddim: 'Gofalu am eich tanc septig: canllaw a llyfr log i ddeiliaid tai'.
Peidiwch ag Anwybyddu, Adroddwch!
I roi gwybod am ddigwyddiad amgylcheddol, ffonia linell gymorth digwyddiadau CNC ar 0300 065 3000 (24 awr y dydd). Mae gwefan CNC yn cynnwys manylion pellach am ba fath o ddigwyddiadau i roi gwybod amdanynt a gelli roi gwybod ar-lein yn: Rhoi gwybod am broblem
Gweld. Adrodd. Atal.
Os gwelwch lygredd carthffosiaeth, ffoniwch linell gymorth Dŵr Cymru cyn gynted â phosibl ar 0800 085 3968. Mae'r ganolfan gyswllt ar agor 24 awr y dydd, bob dydd o'r flwyddyn. Mae galwadau AM DDIM o linell dir BT. Gallwch hefyd adrodd am lygredd ar-lein yn: Adrodd am broblem
Adduned Caru ein Llyn
Rydym yn annog busnesau lleol i gymryd adduned caru ein llyn i ymrwymo i sicrhau nad yw eu gweithgareddau'n niweidio'r llyn yn fwriadol. Cliciwch yma i weld pwy sydd wedi cymryd yr adduned.