Pam dylem ni garu Llyn Padarn?

P'un a oes gen ti fusnes ar lannau'r llyn, dy fod ti'n mwynhau nofio yn y lagwnau, dal pysgod, cerdded dy gi o amgylch llwybr y llyn, neu ddim ond yn gyrru heibio iddo bob dydd, mae gan bob un ohonom sy'n byw, yn gweithio neu'n treulio gwyliau yn nyffryn Llanberis gysylltiad â Llyn Padarn.

Yn 2009, dioddefodd y llyn oherwydd blodau algâu gwenwynig a olygai fod arwyddion rhybudd wedi cael eu gosod ar hyd glan y llyn yn cynghori pobl i osgoi defnyddio'r llyn am ran helaeth o'r haf. Cafodd y blodau eu hachosi gan gyfuniad o amodau tywydd a maetholion fel ffosfforws yn mynd i mewn i'r llyn. Gall y maetholion hyn ddod o nifer o ffynonellau gan gynnwys erydiad pridd a dŵr gwastraff. Mae'r maetholion yn bwydo'r blodau algâu a all fod yn wenwynig i bobl ac anifeiliaid os cânt eu llyncu. Mae algâu hefyd yn defnyddio'r ocsigen yn y dŵr sy'n ei gwneud hi'n anodd iawn i bysgod fyw yn y llyn.

Cafodd blodau 2009 effaith negyddol iawn ar fusnesau lleol, bywyd gwyllt, a phobl na allent fwynhau'r llyn mwyach. Heb leihau faint o faetholion sy'n mynd i mewn i'r llyn, mae'r bygythiad o ragor o flodau algâu yn parhau. Drwy wneud rhai newidiadau syml i'n gweithgareddau o ddydd i ddydd, gallwn helpu i leihau'r maetholion niweidiol sy'n mynd i mewn i Lyn Padarn.

Rhag ofn bod gen ti unrhyw amheuaeth pam y dylem garu ein llyn, cymer olwg ar y ffilm treigl amser syfrdanol hon o godiad haul dros Lyn Padarn wedi'i thynnu o Benllyn, Brynrefail. Wedi'i ffilmio gan Kevin Lewis, cafodd hon ei chipio fel treigl amser dros 4 awr gan ddechrau am 5yb.

Caru EIN Llyn

P'un a oes gennych fusnes ar lannau'r llyn, yn mwynhau nofio yn y lagynau, dal pysgod, cerdded eich ci, neu'n syml yn gyrru heibio iddo bob dydd, mae gan bob un ohonom sy'n byw, gweithio neu'n gwyliau yn Nyffryn Llanberis gysylltiad â Llyn Padarn. Er mwyn helpu i ddiogelu'r llyn ar gyfer y dyfodol, gallwn i gyd wneud rhai newidiadau syml i'n gweithgareddau bob dydd a fydd yn lleihau mewnbwn maetholion niweidiol.

Canllaw a Llyfr Log Tanc Septig

Lawrlwythwch ddogfen pdf am ddim: 'Gofalu am eich tanc septig: canllaw a llyfr log i ddeiliaid tai'.

Peidiwch ag Anwybyddu, Adroddwch!

I roi gwybod am ddigwyddiad amgylcheddol, ffonia linell gymorth digwyddiadau CNC ar 0300 065 3000 (24 awr y dydd). Mae gwefan CNC yn cynnwys manylion pellach am ba fath o ddigwyddiadau i roi gwybod amdanynt a gelli roi gwybod ar-lein yn: Rhoi gwybod am broblem

Gweld. Adrodd. Atal.

Os gwelwch lygredd carthffosiaeth, ffoniwch linell gymorth Dŵr Cymru cyn gynted â phosibl ar 0800 085 3968. Mae'r ganolfan gyswllt ar agor 24 awr y dydd, bob dydd o'r flwyddyn. Mae galwadau AM DDIM o linell dir BT. Gallwch hefyd adrodd am lygredd ar-lein yn: Adrodd am broblem

Adduned Caru ein Llyn

Rydym yn annog busnesau lleol i gymryd adduned caru ein llyn i ymrwymo i sicrhau nad yw eu gweithgareddau'n niweidio'r llyn yn fwriadol. Cliciwch yma i weld pwy sydd wedi cymryd yr adduned.