Mae tîm prosiect ‘Caru ein Llyn’ yn gwahodd teuluoedd, preswylwyr, busnesau a chefnogwyr Llyn Padarn yn ardal Llanberis i ddod i ‘Sioe Bioamrywiaeth Llyn Padarn’ ddydd Sadwrn, 7 Mehefin 2014.

“Gyda’n partneriaid rydym am gynnig y cyfle i bobl ddod i weld drostynt eu hunain sut rydym yn cydweithio i ofalu am y llyn a’i fywyd gwyllt a beth y gallant ei wneud i’n helpu i amddiffyn Llyn Padarn,” meddai Emma Edwards-Jones, Rheolwr Prosiect ar gyfer prosiect ‘Caru ein Llyn’.

Mae gan y digwyddiad rhad ac am ddim hwn, a gynhelir yn y Ganolfan, Llanberis, rhwng 10.30yb a 2.30yp, weithgareddau ymarferol i’r teulu cyfan, er enghraifft;

• Rhoi cynnig ar ‘Yr Her Draenio’ i geisio adeiladu system ddraenio ar gyfer pentref fel Llanberis;
• Cwrdd â’r Pysgod, gweld harddwch Torgoch Llyn Padarn a darganfod beth sy’n cael ei wneud i’w hamddiffyn;
• Ymweld â Gwaith Trin Carthffosiaeth Llanberis, cyfle anarferol efallai, ond mae’r Gwaith yn chwarae rhan hanfodol i Lanberis, teithiau am 11.30yb neu 1yp.

“Efallai fod ymweld â Gwaith Trin Carthffosiaeth Llanberis yn daith leol braidd yn annisgwyl. Ond mae hwn yn gyfle unigryw i ddeall sut mae’r £2.5 miliwn a fuddsoddwyd yma yn ddiweddar gan Dŵr Cymru wedi cael ei wario ac yn gweithio i amddiffyn Llyn Padarn,” meddai Emma.

Sefydlwyd prosiect Caru ein Llyn i weithio gyda phreswylwyr a busnesau lleol i sicrhau ein bod ni i gyd yn gwneud yr hyn a allwn i ddiogelu ansawdd dŵr y llyn. Mae ‘Sioe Bioamrywiaeth Llyn Padarn’ yn fenter ar y cyd gan Caru ein Llyn, Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, Cyfoeth Naturiol Cymru, Dŵr Cymru, Afonydd Cymru a Pharc Gwledig Padarn.

Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am y digwyddiad ac awgrymiadau ar sut y gall pobl newid eu harferion i helpu i atal llygredd ar Dudalen Gymunedol Facebook ‘Caru ein Llyn’ (chwiliwch am ‘LlynPadarn’). Mae'r wefan hon yn cynnwys manylion am sut y gall trigolion a busnesau wneud newidiadau syml i wneud gwahaniaeth mawr.

“Ymunwch â ni ddydd Sadwrn, 7 Mehefin a dewch draw i gael eich rhyfeddu gan fioamrywiaeth Llyn Padarn a heriau ei reoli,” meddai Emma.