Daeth y tîm yn ‘Loving Our Lake’ â phobl leol sy’n caru’r llyn at ei gilydd i rannu eu cariad tuag at Lyn Padarn ar ffilm.
“Roedden ni eisiau cyfleu hanfod y prosiect. Prosiect cymunedol yw hwn ac roedden ni eisiau bloeddio am ba mor ymroddedig yw pobl Llanberis i Lyn Padarn,” meddai Dr Emma Edwards-Jones, Rheolwr Prosiect ‘Loving our Lake’.
Mae’r prosiect yn chwilio am bobl i ymuno yn yr hwyl a chael eu ffilmio yn dangos eu cefnogaeth. “Rydyn ni’n gobeithio y bydd pawb sy’n mwynhau neu’n defnyddio’r llyn eisiau bod yn rhan o ffilm hirach. Dim ond anfon e-bost ataf i fynegi dy ddiddordeb a bydd ein gwneuthurwr ffilmiau Ray yn galw heibio i gael clip ohonot ti yn ‘Loving our Lake’,” meddai Emma.
Gobeithir y bydd pawb eisiau gwylio a rhannu’r ffilm gyda’u ffrindiau a’u teulu. Pan fydd y ffilm yn cael ei rhannu, mae neges ‘Loving our Lake’ yn cyrraedd mwy o’r gymuned leol.
Mae ‘Loving our Lake’ yn annog trigolion a busnesau Llanberis i wneud dau newid syml i’w hymddygiad i ddangos eu cariad tuag at y llyn. Gallet ti garu ein llyn drwy: newid i ddyfais golchi llestri heb ffosffad a gwagio dy danc septig bob 1–2 flynedd. Mae mwy o wybodaeth ar gael ar-lein; clicia yma ar gyfer trigolion a busnesau.
Diolch yn fawr i Surf-Lines, myfyrwyr ODA Prifysgol Bangor, Eleanor Edwards-Jones, Zoë & Ruby Wood, Rheilffordd Llyn Padarn a’r holl bobl a ddaeth i’r digwyddiad ‘Padlo, Nofio a Cherdded Sbwriel’. Os wyt ti eisiau ymuno yn yr hwyl a dangos dy gefnogaeth i Lyn Padarn drwy gael dy gynnwys yn y ffilm, yna cysyllta ag emma@snowdonia-active.com.