Plant Llanberis yn dod yn arbenigwyr dŵr diolch i Dŵr Cymru
Dŵr Cymru yn ymweld ag Ysgol Dolbadarn i addysgu plant am y cysylltiadau rhwng y dŵr maen nhw’n ei ddefnyddio a’u hamgylchedd lleol
Ymweliad ag ysgol wedi’i gyflawni mewn partneriaeth â Snowdonia Active trwy brosiect Caru ein Llyn
Cafodd disgyblion gyfle i gymryd rhan mewn nifer o weithgareddau gan gynnwys dylunio eu rhwydweithiau dŵr eu hunain
Yn ddiweddar, treuliodd disgyblion o Ysgol Dolbadarn yn Llanberis ddiwrnod yn dysgu am eu rhwydwaith dŵr a dŵr gwastraff lleol fel rhan o ymweliad addysg Dŵr Cymru â’u hysgol.
Mae’r cwmni nid-er-elw yn gweithio mewn partneriaeth â Snowdonia Active, i gyflawni Caru ein Llyn – rhaglen 12 mis o weithgareddau i ymchwilio i beth gall preswylwyr a busnesau lleol ei wneud i helpu i wella ansawdd dŵr Llyn Padarn. Trefnodd y tîm ddiwrnod o weithgareddau lle gwelwyd y disgyblion yn cymryd rhan mewn gemau a gweithgareddau, gan eu helpu i ddeall y cylch dŵr a’r gwaith y mae Dŵr Cymru yn ei wneud. Roedd hyn yn cynnwys dysgu am sut mae dŵr yn cael ei gyflenwi i’w cartrefi a sut mae dŵr gwastraff yn cael ei drin a’i ddychwelyd yn ddiogel i’r amgylchedd.
Fel rhan o’r wers, cafodd y disgyblion wybod hefyd am y gwaith buddsoddi y mae’r cwmni yn ei wneud i wella’r broses drin yng Ngwaith Trin Dŵr Gwastraff Llanberis. Mae’r gwaith yn cynnwys gosod prosesau trin newydd a fydd yn gwella ymhellach ansawdd y dŵr sy’n cael ei ddychwelyd i Lyn Padarn.
Dywedodd Caryn Lyth, athrawes ar secondiad gyda Dŵr Cymru, “Roedd hi’n wych ymweld ag Ysgol Dolbadarn a siarad â’r plant am y cylch dŵr. Fe ganiataodd iddyn nhw weld â’u llygaid eu hunain y gwaith sy’n mynd i mewn i drin dŵr yfed a delio â dŵr gwastraff yn ddiogel.
“Un o’r gweithgareddau oedd yr her rwydwaith a oedd yn golygu cael y plant i feddwl fel peirianwyr a chynllunio’n ofalus ble i osod pibellau newydd o amgylch tref. Roedd hyn yn ddefnyddiol i’w gwneud nhw’n sylweddoli pwysigrwydd y gwaith rydyn ni’n ei wneud yn eu hardal. Mae’n hawdd anghofio pa mor ffodus ydyn ni i gael dŵr glân, diogel yn rhedeg trwy ein tapiau.”
Ychwanegodd Emma Edwards-Jones o Snowdonia Active, “Mae Caru ein Llyn yn ymwneud â’r gymuned leol yn gwneud newidiadau bach i’w ffordd o fyw, a fydd yn cynorthwyo Dŵr Cymru i amddiffyn Llyn Padarn. Roedden ni’n falch iawn o ymuno â Dŵr Cymru ac ymweld â’r ysgol leol i siarad â disgyblion. Mae gennym ni i gyd rôl i’w chwarae wrth sicrhau ein bod yn amddiffyn ansawdd y dŵr yn y llyn ac roedd gweithio gyda’r disgyblion yn gyfle i esbonio sut y gallan nhw chwarae rôl hefyd.”
Mae gwasanaeth Addysg Amgylcheddol Dŵr Cymru yn darparu gweithgareddau gydol y flwyddyn yn rhad ac am ddim. Mae pob gwersi yn integreiddio’r cwricwlwm sgiliau newydd yn llawn trwy ddull ymarferol ‘profiad uniongyrchol’ o feddwl a dysgu. Ar hyn o bryd mae’r tîm yn darparu gwersi i tua 14,000 o disgyblion y flwyddyn ledled Cymru.
Mae Dŵr Cymru yn buddsoddi’n drwm ac yn gweithio’n galed i sicrhau gwasanaethau o’r ansawdd uchaf i’r holl gymunedau y mae’n eu gwasanaethu. Mae’r cwmni yn buddsoddi £1.5 biliwn yn ei rwydwaith dŵr a charthffosiaeth rhwng 2010 a 2015.
Mae’n ‘gwmni nid-er-elw’ sydd wedi bod ym mherchnogaeth Glas Cymru ers 2001. Nid oes gan Dŵr Cymru gyfranddalwyr, ac mae unrhyw ddarpariaeth ariannol dros ben yn cael ei hailfuddsoddi yn y busnes er budd cwsmeriaid.
Menter gymdeithasol yw Snowdonia Active a sefydlwyd yn 2001, sy’n gweithio i gefnogi a datblygu’r sector awyr agored a thwristiaeth gynaliadwy yng Ngogledd Cymru.