Galwch heibio’r Caban, Brynrefail dros yr ychydig wythnosau nesaf i arwyddo addewid Caru Ein Llyn am gyfle i ennill cyflenwad blwyddyn o dabledi peiriant golchi llestri di-ffosffad Ecover!

Yr addewid i garu ein llyn:

1. Rwy’n newid i gynhyrchion glanhau ecogyfeillgar, yn enwedig glanedyddion peiriant golchi llestri di-ffosffad.

2. Rwy’n ymwybodol o’r garthffos ac nid wyf yn defnyddio’r sinc na’r toiled i waredu unrhyw eitemau (megis brasterau, olewau, saim, cadachau, swabiau cotwm ac ati) a allai achosi rhwystr.

3. Rwy’n falch o gefnogi Caru Ein Llyn.

Bydd yr enillydd yn derbyn cyflenwad blwyddyn o dabledi peiriant golchi llestri di-ffosffad Ecover a bydd 10 o’r rhai a ddaeth yn ail yn derbyn bagiau anrheg Ecover.

Bydd y gystadleuaeth yn cael ei thynnu gan enillydd Ras Iau’r Wyddfa, a noddir gan Caru Ein Llyn, ar 19 Gorffennaf 2014.