Gofynnir i fusnesau yn nyffryn Llanberis lofnodi ‘Adduned Loving our Lake’ a diogelu dyfodol Llyn Padarn.
“Fe wnaethon ni ymgynghori â Grŵp Datblygu Llanberis ar 15 Mai, gan esbonio ein prosiect a gofyn am eu cefnogaeth. Mae’r busnesau cyntaf bellach wedi llofnodi ‘Adduned Loving our Lake’,” meddai Dr Emma Edwards-Jones, Rheolwr Prosiect ‘Loving our Lake’.
Mae ‘Adduned Loving our Lake’ yn gofyn i fusnesau ymrwymo i sicrhau nad yw eu gweithgareddau yn niweidio Llyn Padarn yn fwriadol. Mae busnesau sy’n llofnodi’r adduned wedi ymrwymo i newid i gynhyrchion glanhau sy’n gyfeillgar i’r amgylchedd, yn enwedig glanedydd peiriant golchi llestri heb ffosffad, i fod yn ymwybodol o garthffosydd, ac i beidio â gwaredu unrhyw eitemau i lawr y toiled neu’r sinc a allai achosi rhwystr.
Gallt y Glyn, Llanberis Bike Hire, The Heights a Mount Pleasant yw’r busnesau cyntaf i lofnodi’r adduned. “Mae’n wych cael ein busnesau ‘Adduned Loving our Lake’ cyntaf ar fwrdd. Rydym yn gwybod bod newidiadau syml, yn enwedig newid i lanedydd peiriant golchi llestri heb ffosffad, yn gwneud gwahaniaeth mawr i’r llyn,” meddai Emma.
Clicia yma i lofnodi ‘Adduned Loving our Lake’.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar Dudalen Gymunedol Facebook ‘Loving our Lake’ ‘llynpadarn’ lle gall preswylwyr a busnesau yn nyffryn Llanberis ‘Hoffi’ y prosiect.
Mae prosiect ‘Loving our Lake’ wedi’i ddatblygu ac yn cael ei gyflwyno gan Snowdonia-Active, menter gymdeithasol wedi’i lleoli yn y Caban, Brynrefail. Mae ganddo gefnogaeth Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru ac fe’i cefnogir gan Dŵr Cymru.