Pan fyddi di’n fflysio’r tŷ bach, yn tywallt dŵr i’r sinc neu’n gwagio’r bath, mae’r dŵr yn amlwg yn mynd i rywle…..ond wyt ti’n gwybod i ble, a beth sy’n digwydd iddo?
Yr wythnos diwethaf anfonodd tîm Loving our Lake gopïau o ‘Gofalu am dy danc septig: Canllaw a llyfr log i ddeiliaid tai’ i 220 o eiddo gyda thanciau septig cofrestredig o amgylch Llyn Padarn.
Mae’r canllaw yn cynnwys llawer o wybodaeth ddefnyddiol i helpu deiliaid tai i reoli eu system tanc septig yn effeithiol er mwyn sicrhau nad yw’n achosi risg iechyd iddyn nhw, eu teulu na’u cymdogion.
Mae tanciau septig sy’n cael eu rheoli’n wael yn ffynhonnell bosibl o lygredd i lynnoedd, afonydd a nentydd. Mae tîm Loving our Lake yn gofyn i ddeiliaid tai ddarllen y canllaw a gofalu’n arbennig am eu tanc septig i helpu i sicrhau bod Llyn Padarn yn aros yn ddisglair ac yn glir yn y dyfodol.
Dyma’r tro cyntaf i’r canllaw gael ei anfon allan ac rydym yn gofyn i’r rhai sy’n ei dderbyn lenwi holiadur i ddweud wrthym beth yw eu barn amdano. Bydd yr ymatebion yn cael eu defnyddio i olygu a mireinio’r canllaw cyn iddo gael ei ddosbarthu i ardaloedd eraill yng Nghymru.
Os hoffet ti gopi o’r canllaw anfon dy fanylion cyswllt i emma@snowdonia-active.com.