Mae’r tîm yn Gallt y Glyn, yn y fideo hwn, yn rhannu sut maen nhw’n ‘Caru ein Llyn’. Gwylia i weld sut mae Heidi a Russell yn tacluso ar ôl ‘Pizza a Pheint yn Gallt y Glyn’ prysur, heb ffosffadau.

“Mae ein glanedydd peiriant golchi llestri newydd cystal â’r un blaenorol, os nad yn well. Mae’n gwneud y llestri’n ddisglair o lân. Mae hefyd yn anhygoel ar y llogell gan ei fod hanner y pris. Ac mae’n arbediad gwych i’n llyn, sydd jyst dros y ffordd,” meddai perchennog y gwesty Heidi Petch-Jones, o Gallt y Glyn.

Fe wnaethon ni ymweld â Heidi am y tro cyntaf ym mis Hydref 2012 a gofyn iddi roi cynnig ar gynhyrchion heb ffosffad. Mae’n wych gwybod bod y cynhyrchion yn dal i weithio’n dda.

Os hoffet ti ymuno â Gallt y Glyn i gefnogi ein prosiect, dos i’n tudalen ‘beth-all-busnesau-ei-wneud’ lle mae manylion am ystod Northern Environmental o gynhyrchion ecogyfeillgar, sy’n cynnwys glanedydd peiriant golchi llestri heb ffosffad, fel y cafodd ei brofi a’i garu gan Gallt y Glyn.

Mae Northern Environmental yn cynnig gostyngiad o 5% ar gyfer archebion o dan £100 a gostyngiad o 10% + danfoniad am ddim ar gyfer archebion dros £100.

Diolch Heidi a Russell yn Gallt y Glyn

Gwylia’r fideo hwn i ddysgu am y camau y mae busnesau yn nyffryn Llanberis yn eu cymryd i gefnogi Caru ein Llyn…