Ar ddydd Mercher 10fed a dydd Iau 11eg Hydref 2012 bydd Dŵr Cymru/Welsh Water yn cynnal diwrnodau gwybodaeth i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i drigolion Llanberis am eu cynlluniau ar gyfer gwaith ar y Gwaith Trin Carthion a seilwaith draenio yn Llanberis.

Bydd aelodau o staff o DCWW wrth law i ateb cwestiynau ac esbonio eu cynlluniau.

Bydd tîm Loving Our Lake yno yn cyflwyno’r prosiect newydd ac yn cyflwyno syniadau ar sut y gallwn ni i gyd chwarae ein rhan i wella ansawdd dŵr yn Llyn Padarn.