Llongyfarchiadau i bawb a ddangosodd eu cariad tuag at Lyn Padarn drwy ei adael yn lanach nag yr oedd pan gyrhaeddoch chi fore Sul. Trefnwyd yr ymgyrch glanhau sbwriel yn llyn dyffryn Llanberis gan y busnes gweithgareddau awyr agored a’r manwerthwr ar lan y llyn, Surf-Lines, ar y cyd â ni ym mhrosiect ‘Caru ein Llyn’ a’r Grŵp Siarter Awyr Agored Amgylcheddol.

Cynigiodd Surf-Lines sesiwn canŵ am ddim neu nofiad gyda chymorth i’r rhai a fynychodd y digwyddiad yn gyfnewid am gasglu sbwriel. Fe gymerodd bron i ddeugain o bobl ran yn yr ymgyrch dacluso, gan gynnwys llawer o bobl ifanc. Roedd llawer o welis coll (ond dim parau), caniau diod a hyd yn oed tebot ymhlith y sbwriel o dan y dŵr a gasglwyd gan y nofwyr. Chwaraeodd Cyngor Gwynedd ran drwy fynd â’r swm sylweddol o sbwriel a gasglwyd ymaith, gyda’r poteli plastig a’r caniau wedi’u gwahanu i’w hailgylchu.

Dywedodd Chris Wright o Snowdonia-Active, sy’n arwain prosiect ‘Caru ein Llyn’: “Roedd heddiw yn enghraifft dda o sut y gall y gymuned leol a defnyddwyr y llyn gymryd rhan mewn gofalu am yr adnodd naturiol gwych sydd gennym yn Llyn Padarn drwy weithred syml. Gall pawb wneud gwahaniaeth drwy leihau eu heffaith ar y llyn.”
Badlo-Sbwriel (2 o 2)
Dywedodd perchennog Surf-Lines, Phil Nelson: “Roedd hi’n wych gweld cymaint o bobl o bell ac agos yn dod draw i helpu i ddechrau’r broses o dacluso’r llyn. Dim ond crafu’r wyneb wnaethon ni o ran y sbwriel sydd allan yna ac rydym yn awyddus i gynnal sesiwn arall yn fuan i gael effaith go iawn, ond bydd angen mwy o help arnom y tro nesaf.” Felly cadwch lygad am y digwyddiad ‘Badlo a Nofio Sbwriel’ nesaf.

Mae Llyn Padarn a’i gynefin o bwysigrwydd cenedlaethol ac mae wedi’i ddynodi’n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig. Ddydd Sul 19 Mai bydd mil o gystadleuwyr yn herio dyfroedd oer Llyn Padarn fel rhan o Triathlon y Slateman, a fydd yn cael ei ddarlledu ar y teledu ar gyfer