Cafodd staff Cwmni First Hydro, y busnes trydan dŵr storfa bwmpio sydd wedi’i leoli yn Llanberis, anrheg anarferol y Nadolig hwn. Roedd y cwmni’n rhannu eu cariad tuag at Lyn Padarn drwy roi anrheg o hylif golchi llestri Ecover fel rhan o anrheg Nadolig eu staff. Darperir yr hylif golchi llestri hwn i gefnogi ymgyrch ‘Caru ein Llyn’ sy’n gofyn i drigolion a busnesau lleol wneud rhai newidiadau syml i’w gweithgareddau dydd i ddydd y gobeithir y byddant yn lleihau’r maetholion niweidiol sy’n mynd i mewn i’r llyn.
Drwy ofyn i’w staff olchi llestri â llaw, neu ddefnyddio tabledi peiriant golchi llestri heb ffosffad, mae Cwmni First Hydro yn helpu i ddiogelu Llyn Padarn ar gyfer y dyfodol. Yn 2009, dioddefodd y llyn o blŵm algâu gwenwynig a chynghorwyd pobl i osgoi defnyddio’r llyn am ran helaeth o’r haf. Achoswyd y blŵm gan gyfuniad o dywydd a maetholion fel ffosfforws yn mynd i mewn i’r llyn. Gall y maetholion hyn ddod o nifer o ffynonellau gan gynnwys dŵr gwastraff o gartrefi a busnesau.
“Mae’r rhan fwyaf o dabledi peiriant golchi llestri yn cynnwys o leiaf 30% o ffosffadau, drwy newid i frand heb ffosffad fel Ecover, neu olchi llestri â llaw gallwn ni i gyd helpu i leihau faint o faetholion niweidiol sydd yn y llyn,” meddai Dr Emma Edwards-Jones, Rheolwr Prosiect ‘Caru ein Llyn’. Ychwanega hi “Y newyddion da, yn enwedig adeg y Nadolig, yw nad yw brandiau heb ffosffad yn ddrytach fesul golchiad na’r brandiau blaenllaw traddodiadol, ac maen nhw’n gweithio cystal â nhw.”
Mae prosiect ‘Caru ein Llyn’ yn cael cefnogaeth Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru ac fe’i cefnogir gan Dŵr Cymru. Fe’i datblygwyd ac fe’i cyflwynir gan Snowdonia-Active, menter gymdeithasol wedi’i lleoli yn y Caban, Brynrefail. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar-lein yn www.loving-our-lake.org. Mae’r wefan hon yn cynnwys manylion am sut y gall trigolion a busnesau wneud newidiadau syml i wneud gwahaniaeth mawr.
Yn y llun yn Llyn Peris mae Mike Hickey, Rheolwr yr Orsaf a Sue McLaren, y Rheolwr QEHS.