Diolch mawr i bawb a ymatebodd i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru.

Mae hyn yn golygu bod yn ofynnol i Gyfoeth Naturiol Cymru gynhyrchu proffil manwl a rhaglen fonitro ar gyfer y llyn. Mae proffiliau dŵr ymdrochi yn nodi canlyniadau cydymffurfiaeth ansawdd dŵr ymdrochi ac yn esbonio’r gwaith y maent yn ei wneud gydag asiantaethau eraill i nodi lle mae angen gwelliannau ansawdd dŵr. Mae hyn yn cynnwys gweithio gyda chwmnïau dŵr ac awdurdodau lleol i nodi problemau a allai effeithio ar ansawdd dŵr ymdrochi.

Yn ogystal, rhaid i bob awdurdod lleol sy’n rheoli dŵr ymdrochi sicrhau bod gwybodaeth fanwl am y dŵr ymdrochi ar gael mewn lleoliad hawdd ei gyrraedd gerllaw’r dŵr ymdrochi yn ystod y tymor ymdrochi (15 Mai i 30 Medi). Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth am ble i ddod o hyd i wybodaeth fanylach a disgrifiad o’r dŵr ymdrochi.