Mae cynnal ansawdd dŵr da yn Llyn Padarn yn hanfodol er mwyn diogelu iechyd a lles y preswylwyr lleol a’r ymwelwyr sy’n nofio ac yn padlo ar y llyn.
Credwn y byddai sicrhau dynodiad Dyfroedd Ymdrochi i Lyn Padarn o dan y Gyfarwyddeb Dyfroedd Ymdrochi (2006/7/EC) yn sbardun pwysig i fonitro a chynnal ansawdd y dŵr yn y llyn.
Mae Llywodraeth Cymru wrthi’n ceisio ymatebion i’r cynnig hwn ar hyn o bryd. Clicia ar y ddolen isod i ymateb, mae’n broses syml na ddylai gymryd yn hir.
http://wales.gov.uk/consultations/environmentandcountryside/2014-review-of-bathing-waters/?lang=en
Mae’r ymgynghoriad ar agor tan 21ain Mawrth 2014
Rwyt ti’n gallu gweld ymateb i’r Adolygiad Dyfroedd Ymdrochi gan Snowdonia-Active yma: