Wyt ti’n cofio yn ôl ym mis Rhagfyr 2012 pan wnaethon ni sôn am gasglu wyau a thalch (milt) torgoch Padarn? Cafodd y pysgod eu dal yn eu mannau silio yn Afon y Bala, ym mhen uchaf y llyn, a chafodd yr wyau wedi’u ffrwythloni eu cludo i ddeorfa’r Fawddach ger Dolgellau.

Ar ôl cael eu deor mewn tanciau lle roedd tymheredd y dŵr o dan reolaeth fanwl am tua thri mis a’u magu am saith mis arall, roedd y pysgod ifanc yn barod i fynd adref a chawsant eu rhyddhau yn ôl i Lyn Padarn ym mis Hydref 2013.