I helpu i ddiogelu Llyn Padarn, rydyn ni’n annog preswylwyr a busnesau yn nyffryn Llanberis i newid i lanedydd peiriant golchi llestri sydd heb ffosffad.
Y glanedydd peiriant golchi llestri heb ffosffad mwyaf hwylus i ddod o hyd iddo yw Ecover, am 19c y golchiad, mewn canghennau lleol o Tesco, Morrisons a Waitrose.
Mae Ecover yn caru ein gwaith gyda phrosiect ‘Loving Our Lake’ ac fe wnaethon nhw rannu’r graffeg hwn gyda ni ar ein tudalen Facebook LlynPadarn. Mae modd dod o hyd i gystadlaethau a gwybodaeth am gynnyrch ar eu tudalen Facebook EcoverUK.
Rydyn ni wrthi’n gweithio gyda siopau yn Llanberis i sicrhau bod glanedydd peiriant golchi llestri heb ffosffad ar gael yn y dref; rydyn ni’n gobeithio y bydd hyn o gymorth.
Plîs ‘Hoffwch’ ein tudalen gymunedol Facebook LlynPadarn a rhannwch y dudalen hon a’n neges am fod heb ffosffad gyda’ch ffrindiau Facebook.
Mae rhagor o wybodaeth am newid i lanedydd peiriant golchi llestri heb ffosffad i’w chael ar ein tudalen ‘Sut gallaf helpu?’.