Blog

Busnesau twristiaeth yn addo caru Llyn Padarn

Mae busnesau twristiaeth a leolir o amgylch Llyn Padarn wedi dod ynghyd i lofnodi Addewid Caru ein Llyn i helpu i sicrhau fod y llyn yn parhau’n lân a chlir i’r dyfodol.  Mae busnesau blaenllaw yn cefnogi ein hymgyrch Caru ein Llyn ac yn helpu i ledaenu’r neges.  Mae Emma Edwards-Jones, Rheolwr Prosiect Caru ein Llyn, yn gofyn i bob mathau o fusnesau twristiaeth yn ardal Llanberis, yn cynnwys gwestai, busnesau gwely a brecwast, tai llety hunanarlwyo, caffis a bwytai i gofio y gall yr hyn byddant yn ei ollwng i lawr y draen niweidio ansawdd dŵr Llyn Padarn.

Yn ddiweddar, ymwelodd Emma â llety hunanarlwyo Capel Fachwen, a reolir gan Wales Cottage Holidays. ‘Mae’n neilltuol o bwysig fod busnesau fel Capel Fachwen yn ofalus ynghylch y cemegau byddan nhw’n eu defnyddio i sicrhau fod eu tanc septig yn gweithio mor effeithlon ag y bo modd, i leihau’r posibilrwydd o lygredd yn cyrraedd y nentydd sy’n llifo i mewn i’r llyn,’ meddai Emma. Dywedodd Jack McMahon o Wales Cottage Holidays: ‘Rydym wrth ein bodd fod perchennog Capel Fachwen wedi llofnodi Addewid Caru ein Llyn. Bydd llawer o’r gwesteion sy’n aros yn ein bythynnod gwyliau yn dod yma i fwynhau’r amgylchedd syfrdanol o hardd, felly rydym yn awyddus i annog perchnogion y tai a reolwn i gymryd cyfrifoldeb tuag at yr amgylchedd mewn unrhyw ffordd y gallant.’

Un o agweddau penodol yr ymgyrch yw annog defnydd o lanedyddion peiriannau golchi llestri sydd heb ffosffadau. Bydd lefelau uchel o ffosffadau yn newid ecoleg naturiol llynnoedd ac yn gweithredu fel maetholyn annaturiol, gan achosi algâu gwyrddlas i ffynnu yn llythrennol. ‘Mae glanedyddion confensiynol a ddefnyddir mewn peiriannau golchi llestri yn cynnwys dros 30% o ffosffadau, ond mae mathau eraill sydd heb ffosffadau ar gael, ac maen nhw’n rhatach ac yn llawn mor effeithiol,’ meddai Heidi Petch-Jones, perchennog bwyty a byncws Gallt y Glyn, a brofodd lanedyddion heb ffosffadau ar ran Caru ein Llyn. Rhennir yr wybodaeth hon â busnesau sefydledig a newydd, yn cynnwys caffi Lodge Dinorwig, a agorodd yn ddiweddar. Mae perchnogion y busnes, Sonja Weissenberger a Simon Rothwell, yn cymryd camau sylweddol i sicrhau fod eu busnes newydd yn effeithio cyn lleied ag y bo modd ar yr amgylchedd, ac maen nhw eisoes wedi llofnodi’r addewid.

Saif Gwesty Royal Victoria mewn llecyn godidog sydd â golygfeydd ar draws y llyn.  Dywedodd y Dirprwy Reolwr Ann Owen, ‘Fel busnes a leolir yn nalgylch Llyn Padarn, rydym wedi ymroddi i sicrhau nad yw ein gweithgareddau yn niweidio’r llyn yn fwriadol.  Rydym wedi cyfnewid ein nwyddau glanhau am rai ecogyfeillgar, yn enwedig glanedyddion sydd heb ffosffadau ar gyfer peiriannau golchi llestri. Byddwn ni hefyd yn gweithio gyda’n staff cynnal tiroedd i sicrhau y gwyddant beth ddylent ei wneud i sicrhau na fydd gollyngiadau yn llifo i mewn i draeniau dŵr wyneb.

Yn 2014, dynodwyd Llyn Padarn yn ddŵr nofio mewndirol cyntaf Cymru. Profir ansawdd dŵr y llyn yn wythnosol yn ystod yr haf ac mae wedi cyflawni meini prawf caeth yr Undeb Ewropeaidd yn rheolaidd, a dyfernir fod y dŵr yn rhagorol. Mae Caru ein Llyn yn gofyn i bawb, yn fusnesau a phreswylwyr lleol fel ei gilydd, i gyfrannu at sicrhau fod ansawdd y dŵr yn parhau i gyflawni’r safonau hyn. Mae’r gwaith o reoli ansawdd dŵr y llyn yn gymhleth ac mae’n hanfodol fod pawb yn cyfrannu at sicrhau na wnaiff y blŵm algaidd a ddigwyddodd yn 2009 ymddangos eto, oherwydd byddai’n niweidio ecoleg y llyn a’r diwydiant ymwelwyr lleol.

Mae 14 busnes lleol wedi gweithredu ac wedi llofnodi ein haddewid Caru ein Llyn. Mae rhagor o wybodaeth ac awgrymiadau ynghylch sut gall pobl newid eu harferion i helpu i atal llygredd ar gael ar Dudalen Cymuned ‘Caru ein Llyn’ ar Facebook (chwiliwch am ‘LlynPadarn’).

DSC_0003

Dan Shepherd (Capel Fachwen) a Jacky McMahon (Wales Cottage Holidays)