Blog

Datganiad i’r wasg – Plant lleol yn dysgu pam a sut ddylent garu Llyn Padarn

OLYMPUS DIGITAL CAMERA

11 Mehefin 2014

Ddydd Iau a dydd Gwener wythnos diwethaf, cyfranogodd 173 o blant o ysgolion lleol yn Sioe Bioamrywiaeth Llyn Padarn yn y Ganolfan, Llanberis.

Mwynhaodd y plant ddiwrnod prysur o weithgareddau gwyddoniaeth a pheirianneg  i ddysgu rhagor am gymhlethdodau rheoli Llyn Padarn, sy’n rhan mor bwysig o’u heconomi a’u hamgylchedd lleol. Datblygwyd a chyflwynwyd y gweithgareddau gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, Dŵr Cymru Welsh Water a Chyfoeth Naturiol Cymru, a hwyluswyd y cyfan gan brosiect Caru ein Llyn.

Roedd bob gweithgaredd yn canolbwyntio ar agwedd wahanol o reoli’r llyn ac yn amlygu sut gall plant leihau eu heffeithiau hwy ar ansawdd dŵr. “Roedd taith o amgylch gwaith trin dŵr Llanberis yn brofiad ‘waw’ i’r plant a gafodd eu syfrdanu wrth ddysgu am y broses o lanhau’r dŵr ar ôl iddo adael ein cartrefi,” meddai Emma Edwards-Jones, Rheolwr Prosiect ‘Caru ein Llyn’. Roedd tanc o dorgoch yr Arctig, eogiaid a brithyllod ifanc o ddeorfa Cyfoeth Naturiol Cymru yn amlygu pwysigrwydd cynnal ansawdd dŵr y llyn.

Ar ôl dysgu sut mae maetholion megis ffosffadau yn cyfrannu at achosi blymau algaidd mewn llynnoedd, rhywbeth a ddigwyddodd yn Llyn Padarn yn 2009, profodd y plant wahanol frandiau o lanedyddion peiriannau golchi llestri i weld y gwahaniaeth mewn lefelau ffosffadau.

Mae prosiect Caru ein Llyn yn annog trigolion lleol Llanberis, Nant Peris a Fachwen i ddefnyddio brandiau o lanedyddion peiriannau golchi llestri sydd ddim yn cynnwys ffosffadau, i sicrhau fod y llyn yn parhau yn lle diogel i chwarae a ble gall bywyd gwyllt ffynnu.

Roed gweithgareddau eraill yn cynnwys y plant yn adeiladu arglawdd yn yr afon i gyfrifo faint o fylbiau golau a fyddai’n cael eu goleuo pe cai’r afon ei harneisio i gynhyrchu trydan, a chynnal arbrawf i weld sut mae gwahanol fathau o bridd yn amsugno dŵr glaw ffo. Fe wnaethant hefyd adeiladu eu system draenio eu hunain ar gyfer pentref dychmygol i weld a allant sicrhau fod y dŵr yn llifo ac atal rhwystrau, neges a hyrwyddir gan ymgyrch ‘Stop Cyn Creu Bloc’ Dŵr Cymru Welsh Water. “Bu’n ddiwrnod prysur ac aeth rhai o’r plant adref â’u traed yn wlyb, ond roeddent wedi dysgu llawer ynghylch sut i garu ein llyn,” meddai Emma.

Mae rhagor o wybodaeth am y digwyddiad ac awgrymiadau ynghylch sut gall pobl newydd eu arferion i helpu i atal llygredd ar gael ar Dudalen Facebook Cymunedol ‘Caru ein Llyn’ (chwiliwch am ‘Llyn Padarn’), ac ar-lein yn www.caru-ein-llyn.org.

Mae’r wefan yn cynnwys manylion sut gall preswylwyr a busnesau wneud newidiadau syml a wnaiff wahaniaeth mawr.

Daeth disgyblion o Ysgol Brynrefail, Ysgol Dolbadarn, Ysgol Gynradd Cwm y Glo, Ysgol Gwaun Gynfi, ac aelodau o Frownis a Geidiau Llanberis i’r digwyddiad.