Blog

Mae Gallt y Glyn yn Caru ein Llyn

Yn y fideo hwn, mae’r tîm yng Ngallt y Glyn yn dangos sut maent yn ‘Caru Ein Llyn’. Edrychwch sut mae Heidi a Russell yn glanhau heb ffosffadau ar ôl noson brysur ‘Pitsa a Pheint  yng Ngallt y Glyn’.

“Mae ein glanedydd golchi llestri llawn cystal os nad yn well na’r un a ddefnyddiem yn flaenorol. Mae’n sicrhau fod y llestri’n lân ac yn disgleirio. Nid yw’n drwm ar y boced, oherwydd mae’n hanner pris y glanedydd blaenorol. Mae hefyd yn wych i achub ein llyn, sydd yr ochr draw i’r ffordd,” meddai’r perchennog gwesty Heidi Petch-Jones, o westy Gallt y Glyn.

Aethom i weld Heidi am y tro cyntaf yn Hydref 2012 ac fe wnaethom ofyn iddi dreialu nwyddau heb ffosffadau. Mae’n dda cael gwybod bod y nwyddau’n dal i weithio’n dda.

Os hoffech ymuno â Gallt y Glyn i gefnogi ein prosiect, ewch i’n tudalen ‘beth all busnesau wneud’ ble cewch fanylion nwyddau ecogyfeillgar  Northern Environmental, sy’n cynnwys glanedydd peiriannau golchi llestri a dreialwyd gan ac sy’n annwyl iawn gan griw Gallt y Glyn.

Mae Northern Environmental yn cynnwys disgownt o 5% ar archebion dan £100 a disgownt o 10% a chludiant am ddim am archebion dros £100.

Diolch/Thanks Heidi a Russell yng Ngallt y Glyn

Gwyliwch y fideo hwn i ddysgu am y camau mae busnesau yn nyffryn Llanberis yn eu cymryd i gefnogi Caru ein Llyn…