Adduned ‘Caru ein llyn’
Rydym yn annog busnesau lleol i addo caru ein llyn i ymroddi i sicrhau na wnaiff eu gweithgarwch niweidio’r llyn yn fwriadol. Cliciwch yma i weld pwy sydd wedi gwneud yr addewid a chofrestrwch eich busnes…
Yr Addewid:
- Fel busnes a leolir yn nalgylch Llyn Padarn, ymroddwn i sicrhau nad yw ein gweithgareddau yn niweidio’r llyn yn fwriadol.
- Rydym yn cyfnewid ein nwyddau glanhau am rai ecogyfeillgar, yn enwedig glanedyddion heb ffosffadau ar gyfer peiriannau golchi llestri.
- Rydym yn ystyriol o garthffosydd, ac ni fyddwn yn gwaredu unrhyw eitemau i lawr y toiled neu’r sinc a allai achosi rhwystr.
- Rydym yn falch o gefnogi Caru ein Llyn
Nwyddau Heb Ffosffadau
Mae Northern Environmental yn cynnig dewis o nwyddau ecogyfeillgar i fusnesau lletygarwch, yn cynnwys glanedydd heb ffosffadau a brofwyd ac sy’n annwyl iawn gan ein cyfeillion Caru Ein Llyn, gwesty Gallt y Glyn. Dysgwch ragor am beth a wnaethant yn y fideo hwn. Maent yn cynnig disgownt o 5% am archebion dan £100 a disgownt o 10% a chludiant am ddim am archebion o dros £100. E-bostiwch hwy yn sales@nenviro.com, neu RADFFÔN ar 0800 808 7887, a dywedwch eich bod yn gefnogwr ‘Caru Ein Llyn’ .
Sylwi. Hysbysu. Atal.
Os gwelwch lygredd carthffosiaeth, ffoniwch linell frys Dŵr Cymru cyn gynted ag y bo modd ar 0800 085 3968. Mae’r ganolfan gyswllt ar agor 24 awr y dydd, bob diwrnod o’r flwyddyn. Mae galwadau AM DDIM o linell tir BT. Gallwch hefyd eu hysbysu ar-lein ynghylch llygredd yn: seereportstop.com